WQ100394 (d) Wedi’i gyflwyno ar 02/09/2026

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i rhoi i ariannu'r gwaith o osod peirianwaith lifft yn Nhŷ Tawe, Abertawe, er mwyn cywiro'r anghydraddoldeb o ran cyfleusterau annigonol sydd ar gael ar hyn o bryd i gludo pobl anabl o'r llawr daear i'r lloriau uwch?

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 11/09/2026

Mae hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob un o’n cymunedau a sicrhau bod y Gymraeg yn hygyrch i bawb yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru. Byddwn yn cyhoeddi ein hymateb i adroddiad Cam 2 y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, Cyrraedd pob cymuned, cryfhau’r Gymraeg, a fydd yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer ardaloedd fel Abertawe.

Nid oes unrhyw grantiau cyfalaf perthnasol gan adran y Gymraeg Llywodraeth Cymru ar gael ar gyfer datblygiadau o'r fath ar hyn o bryd. Er hyn,  mae Llywodraeth Cymru yn darparu Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol sy’n cynnig cefnogaeth cyfalaf ar gyfer canolfannau cymunedol fel Tŷ Tawe. Byddwn hefyd yn annog yr ymddiriedolwyr i gysylltu gyda Chyngor Abertawe i wneud ymholiadau am gronfeydd addas megis Cronfeydd Ffyniant Gyffredin neu cyfleoedd posib drwy Bargen Ddinesig Bae Abertawe.