Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinetwedi'i rhoi i sefydlu llwybr comisiynu wedi'i ariannu'n ganolog ar gyfer adsefydlu preswyl ar gyfer camdrin sylweddau ar wahân i gyllidebau byrddau cynllunio ardal, er mwyn sicrhau y caiff mynediad ei benderfynu ar sail angen clinigol a asesir yn hytrach nag argaeledd cyllideb lefel 4 bwrdd unigol?
Awdurdodau lleol sydd â’r cyfrifoldeb statudol dros ariannu triniaethau preswyl, pan asesir hwy yn driniaethau angenrheidiol. Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol wedi’i neilltuo gwerth £2 miliwn i Fyrddau Cynllunio Ardal er mwyn cefnogi’r mynediad hwn at wasanaethau triniaethau preswyl. Gwneir penderfyniadau ar leoliadau adsefydlu preswyl yn seiliedig ar anghenion unigol, a Byrddau Cynllunio Ardal a phartneriaid lleol sy’n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau priodol ar gyfer eu poblogaethau.
Mae adsefydlu preswyl a dadwenwyno cleifion mewn ysbytai yn parhau i chwarae rhan bwysig o ran helpu defnyddwyr gwasanaeth i sicrhau eu hadferiad hirdymor ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod gwasanaethau o’r fath ar gael ar sail gynaliadwy a hirdymor yng Nghymru.
O ganlyniad, mae trafodaethau yn cael eu cynnal i gryfhau’r gwaith o reoli prosesau contractio a rheoli ansawdd ar gyfer llwybrau triniaethau haen 4.