WQ100288 (d) Wedi’i gyflwyno ar 26/08/2026

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i rhoi i sefydlu canolfan ddiagnostig gymunedol ar gyfer mynediad cyflym at brofion gwaed a sganiau i dynnu'r pwysau oddi ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys a gofal eilaidd?

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal | Wedi'i ateb ar 08/09/2026

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen annibynnol ar Ofal a Gynlluniwyd GIG Cymru i gynghori ar y gwaith o ddatblygu canolfannau llawfeddygol a diagnostig ledled Cymru yn y dyfodol. Gofynnwyd yn benodol i’r Grŵp ystyried rôl y canolfannau diagnostig, gan gynnwys y ffordd orau y gallant hybu mynediad i gleifion, gwella cynhyrchiant ac ategu modelau ehangach o ofal a ddarperir yn nes at y cartref. Bydd y Grŵp yn rhannu ei argymhellion â Gweinidogion Cymru ym mis Rhagfyr 2026.

Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae ystyriaeth benodol eisoes yn cael ei roi i fodelau diagnostig cymunedol a rhanbarthol drwy waith parhaus ar adferiad diagnostig a datblygu Canolfan Ddiagnostig Ranbarthol ym Mhowys. Bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch y cyfluniad mwyaf effeithiol o wasanaethau diagnostig ledled Cymru.

Bydd angen i gynigion yn y dyfodol ddangos gwell mynediad i gleifion, defnydd effeithiol o’r gweithlu ac adnoddau, a manteision clir o ran lleihau’r pwysau ar wasanaethau gofal eilaidd a gofal brys gan hefyd gefnogi diagnosis a thriniaethau cynharach.