Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i roi i leoli canolfan ddiagnostig a llawfeddygol offthalmig rhanbarthol de-orllewin Cymru yn Abertawe a pha drafodaethau sydd wedi'u cynnal hyd yma gyda chlinigwyr yn y rhanbarth?
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella mynediad at wasanaethau offthalmoleg a lleihau amseroedd aros drwy ddatblygu capasiti diagnostig a llawfeddygol rhanbarthol cynaliadwy. Yn y rhaglen ehangach i ddatblygu canolfannau llawfeddygol a diagnostig ledled Cymru, mae offthalmoleg wedi’i nodi yn arbenigedd sy’n flaenoriaeth, gan gydnabod y galw sylweddol am wasanaethau asesu, cadw golwg a thriniaeth.
Mae’r buddsoddiad diweddar gwerth £145 miliwn yn GIG Cymru yn cynnwys cyllid gwerth £25 miliwn i gefnogi capasiti llawfeddygol a diagnostig ychwanegol. Yn rhan o’r gwaith hwn, mae datrysiadau rhanbarthol yn cael eu hystyried i sicrhau bod cleifion yn gallu cael mynediad at wasanaethau offthalmoleg amserol ac o ansawdd uchel, wrth hefyd wneud y defnydd gorau o’r gweithlu, y cyfleusterau a’r arbenigedd clinigol sydd ar gael.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen annibynnol ar Ofal a Gynlluniwyd GIG Cymru, a gaiff ei gadeirio gan arweinydd clinigol allanol profiadol, i ddarparu cyngor arbenigol ar gyfluniad canolfannau llawfeddygol a diagnostig ledled Cymru yn y dyfodol. Mae aelodaeth y Grŵp yn cynnwys arweinwyr clinigol o sawl arbenigedd, gan gynnwys offthalmoleg, ac mae’r dasg benodol wedi’i neilltuo iddo i wneud argymhellion sy’n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch lleoliad a chyfluniad gwasanaethau gofal a gynlluniwyd a chanolfannau diagnostig a’r gwaith o’u darparu yn y dyfodol. Yn rhan o’r Grŵp y mae’r Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Offthalmoleg.
Mae’r Grŵp yn annibynnol ar brosesau gwneud penderfyniadau’r Llywodraeth ac mae wrthi’n ystyried y galw, capasiti, y gweithlu, mynediad, seilwaith a chynaliadwyedd clinigol ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys ystyried gwasanaethau offthalmoleg a rôl canolfannau diagnostig a thriniaeth rhanbarthol.
Bydd y Grŵp yn rhannu ei argymhellion â Gweinidogion Cymru ym mis Rhagfyr 2026, gan gynnwys cyngor ar leoliadau a chyfluniadau a ffefrir o ran canolfannau gofal a gynlluniwyd yn y dyfodol yn ogystal â’r gwaith o integreiddio gwasanaethau diagnostig. Byddai’n amhriodol imi felly ragflaenu canlyniad y gwaith hwnnw neu unrhyw argymhellion y gall y Grŵp eu gwneud ynghylch lleoliadau penodol, gan gynnwys Abertawe.
Wrth ddatblygu ei argymhellion, bydd y Grŵp yn manteisio ar arbenigedd clinigol o bob cwr o Gymru, gan gynnwys clinigwyr ac arweinwyr gweithredol ym maes offthalmoleg, a hynny yn rhan o’i weithgarwch casglu tystiolaeth ac ymgysylltu. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried argymhellion y Grŵp unwaith y cyflwynir ei adroddiad terfynol.