WQ100282 (w) Wedi’i gyflwyno ar 26/08/2026

A wnaiff y Gweinidog Cabinet ddarparu diweddariad ar y cais am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cerflun o Twm Carnabwth?

Wedi'i ateb gan Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon | Wedi'i ateb ar 08/09/2026

Rwy’n cydnabod arwyddocâd cenedlaethol Terfysgoedd Beca a’r gwaith mae’r gymuned leol wedi’i wneud dros y blynyddoedd i rannu a deall yr agwedd bwysig hon ar eu treftadaeth leol a hanes cenedlaethol Cymru.

Rwy’n ystyried cyngor gan swyddogion mewn perthynas â’r cais am gymorth ariannol ar gyfer y cerflun o Twm Carnabwth. Rhaid gwneud unrhyw benderfyniad yng nghyd-destun ehangach y portffolio diwylliant, a blaenoriaethau ehangach y Llywodraeth.