WQ100253 (d) Wedi’i gyflwyno ar 26/08/2026

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i rhoi i ariannu cerflun o Bonnie Tyler i dalu teyrnged i'w dawn gerddorol ac i'w heffaith ar y llwyfan rhyngwladol?

Wedi'i ateb gan Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon | Wedi'i ateb ar 08/09/2026

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod cyfraniad sylweddol Bonnie Tyler i ddiwylliant Cymru, a’i llwyddiant rhyngwladol fel artist recordio. Fel y nodwyd yn nheyrnged y Prif Weinidog yn dilyn ei marwolaeth, mae Cymru wedi colli eicon gwirioneddol, yr oedd ei cherddoriaeth yn rhoi pleser i lawer.

Byddai unrhyw gynigion i gofio gwaddol Bonnie Tyler yn cael eu hystyried mewn partneriaeth â phartïon â diddordeb, gan gynnwys awdurdodau lleol perthnasol.