Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi awdurdodau lleol ac ymatebwyr brys i sicrhau cyfathrebu amserol ac effeithiol â thrigolion lleol yn ystod digwyddiadau tanau gwyllt, yn enwedig pan fo tanau’n digwydd dros benwythnosau neu y tu allan i oriau gwaith arferol?
Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 25/08/2026
Awdurdodau lleol, ymatebwyr brys ac asiantaethau eraill fel Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n bennaf gyfrifol am gyfathrebu â’r cyhoedd yn ystod argyfyngau. Yn ystod digwyddiadau mawr, gan gynnwys y tanau gwyllt diweddar, mae Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan gydgysylltiol ar gyfer y gweithgarwch hwn er mwyn sicrhau cysondeb o ran negeseuon cenedlaethol.