Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adolygu os oes gan ddiffoddwyr tân yr offer gwarchod addas, y gallu arbenigol angenrheidiol fel hofrenyddion a chyfleusterau lles digonol yn ystod digwyddiadau brys fel y tanau gwyllt diweddar?
Pob Gwasanaeth Tân ac Achub unigol sy’n gyfrifol am ddarparu cyfarpar diogelu personol priodol a chyfleusterau lles i ddiffoddwyr tân. Er bod y digwyddiadau diweddar o danau gwyllt wedi rhoi’r Gwasanaethau o dan straen aruthrol, nid wyf yn ymwybodol o unrhyw bryderon sylweddol ynghylch y mater penodol hwn.
Mewn rhai achosion, gall hofrenyddion gyfrannu’n fuddiol o ran mynd i’r afael â thanau gwyllt, a hynny drwy ategu’r gweithrediadau diffodd tân ar lawr gwlad a fydd bob amser yn angenrheidiol. Fodd bynnag, mae’r gallu masnachol i gynnal gweithrediadau diffodd tân yn yr awyr yn gyfyngedig iawn yn y DU ar hyn o bryd, ac yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae’r galw wedi bod yn sylweddol uwch na’r cyflenwad yng Nghymru a mannau eraill. Yn ddiweddar, rwyf i a’m swyddogion wedi cynnal trafodaethau helaeth â’r Gwasanaethau Tân ac Achub ynglŷn â’r mater hwn, fodd bynnag, mae’n debygol mai’r unig ddatrysiad cynaliadwy yw cynyddu galluoedd sifil a milwrol ar lefel y DU.