Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan bobl ar draws Cymru fynediad i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn yr iaith Gymraeg?
Mwy na geiriau yw cynllun Llywodraeth Cymru i gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Yn sail iddo mae egwyddor y Cynnig Rhagweithiol (lle gall pobl dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg heb orfod gofyn amdanynt) - ac mae yna ffocws penodol ar gryfhau arweinyddiaeth; cynllunio’r gweithlu; cynyddu sgiliau’r gweithlu presennol a’r dyfodol; rhannu arfer da; a monitro ac adrodd parhaus.
Mae blaenoriaethau Mwy na geiriau wedi’u halinio gyda Safonau’r Gymraeg - i gefnogi darpariaeth gwasanaethau Cymraeg a sicrhau fod pobl yn gallu cael mynediad i ofal diogel a chyfartal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.