WQ100178 (d) Wedi’i gyflwyno ar 19/08/2026

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i roi i fuddsoddi mewn llinell dram ar gyfer Abertawe i leihau dibyniaeth ar gludiant ceir, lleihau tagfeydd traffig a chynyddu gwytnwch yr economi leol?

Wedi'i ateb gan Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 21/08/2026

Mae blaenoriaethau trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru bellach yn cael eu harwain gan y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi’i gyhoeddi gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Mae cyflawni’r cynllun hwnnw’n cael ei gefnogi gan Gronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol Llywodraeth Cymru, sy’n darparu tua £25 miliwn i ariannu gwaith yn y flwyddyn ariannol bresennol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu gwaith datblygu i wneud yr achos dros hyd at saith gorsaf newydd i wasanaethu ardal Metro Bae Abertawe. Mae hefyd uchelgais hirdymor ar gyfer gwasanaeth trenau ar ffurf tram rhwng Castell-nedd a chanol dinas Abertawe. Mae tramiau yn fwy priodol ar gyfer y llwybr hwnnw oherwydd bod y boblogaeth yno’n llai dwys.   

Gallai’r gwaith o estyn Metro Bae Abertawe o Abertawe i Gastell-nedd ddeg milltir ar ffurf tram ddefnyddio trenau ysgafn ar linellau presennol, a byddai cledrau ar y strydoedd yn cysylltu Gorsaf Stryd Fawr Abertawe, canol y ddinas a’r Glannau, a Champws Prifysgol Abertawe â Chastell-nedd, Tonna ac Aberdulais. Y gost wedi’i hamcangyfrif fyddai dros £1 biliwn. Mae’r achosion dros ‘drenau trwm’ y Metro yn gryfach ac felly rydyn ni’n rhoi blaenoriaeth i’r rhain.