Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i rhoi i ymgysylltu â Hwb Cyn-filwyr Abertawe i drafod ei gynlluniau ar gyfer cefnogi cyn-filwyr sy'n profi anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD) cymhleth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pob cyn-filwr o’r Lluoedd Arfog yn cael mynediad â blaenoriaeth at ofal a thriniaeth y GIG ar gyfer unrhyw gyflwr (boed yn gyflwr meddyliol neu gorfforol) yr ystyrir ei fod yn gysylltiedig â’i wasanaeth milwrol, neu’n deillio o’r gwasanaeth milwrol hwnnw.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid blynyddol gwerth £920,000 i GIG Cymru i Gyn-filwyr (VNHSW), sef gwasanaeth arbenigol cenedlaethol sy’n cynnig mynediad â blaenoriaeth i therapïau seicolegol a chymorth i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog sy’n wynebu anawsterau iechyd meddwl, gan gynnwys PTSD, sy’n gysylltiedig â’u gwasanaeth milwrol. Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn gweithredu drwy bob Bwrdd Iechyd ledled Cymru.
Y byrddau iechyd sy’n gyfrifol am sicrhau bod gwasanaethau lleol yn diwallu anghenion eu poblogaethau lleol, gan gynnwys cyn-filwyr.
Yn ehangach, yn rhan o roi’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol ar waith, rydym yn symud tuag at wasanaethau iechyd meddwl mynediad agored. Bydd cyn-filwyr yn elwa ar y dull gweithredu hwn yn ogystal â’r gwaith o wella mynediad amserol at gymorth iechyd meddwl.