Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i rhoi i effaith y rhaglen Seren ar brifysgolion Cymru wrth annog y mwyaf disglair a'r gorau o'n myfyrwyr i adael Cymru i ddilyn cyfleoedd addysg uwch?
Fel y nodais mewn Datganiad Ysgrifenedig diweddar, ein huchelgais yw datblygu rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer cynnydd dysgwyr sy'n dwyn ynghyd elfennau cryfaf Academi Seren a'r Rhaglen Ymestyn yn Ehangach, sy’n cael ei hariannu gan Medr ar hyn o bryd, mewn un cynnig cydlynol i ddysgwyr ledled Cymru.
Dylai ein dull gweithredu newydd helpu i gadw talent, cryfhau ein sylfaen sgiliau a chefnogi ein nodau economaidd. Pan fydd dysgwyr yn dewis astudio neu weithio yn rhywle arall, rwyf am iddynt barhau i deimlo cysylltiad â Chymru a chael eu hannog i ddychwelyd.