Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gweithredu yn unol â Safonau'r Gymraeg a'r cynllun Mwy na Geiriau wrth ystyried newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau, yn benodol adleoli gwasanaethau o gymunedau Cymraeg eu hiaith i gymunedau Saesneg eu hiaith?
Cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yw sicrhau cydymffurfiaeth gyda’i ddyletswyddau statudol o dan safonau’r Gymraeg a sicrhau ei fod yn gweithredu yn unol ag egwyddorion Mwy na geiriau. Mae dyletswydd ar gyrff iechyd i gydymffurfio gyda safonau llunio polisi sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ystyried effeithiau eu penderfyniadau polisi ar y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau polisi sy’n ymwneud â chynllunio a chomisiynu gwasanaethau.
Mae’r cyfrifoldeb am reoleiddio a gorfodi cydymffurfiaeth gyda Safonau’r Gymraeg yn perthyn i Gomisiynydd y Gymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru yn dwyn sefydliadau’r GIG i gyfrif am ddarparu gwasanaethau Cymraeg trwy fframweithiau llywodraethiant ac atebolrwydd presennol y GIG.