Pa sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi bod digon o adnoddau brechlyn ar gael i ffermwyr, a pha gyngor sy'n cael ei roi i'r sector yn hyn o beth o ystyried y cynnydd yn nifer yr achosion o glefyd y tafod glas, yn enwedig yn Sir Drefaldwyn?
Mae Llywodraeth Cymru yn rhan o'r Tasglu Brechu y Tafod Glas, sy'n gweithio i wella'r cyflenwad o’r brechlyn sydd ar gael i'w ddefnyddio ym Mhrydain Fawr. Mae'r Tasglu yn cynnwys pob un o dair gweinyddiaeth Prydain Fawr, y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol, cynrychiolwyr y diwydiant ffermio ac aelodau o'r cymdeithasau milfeddygol. Mae gweithgynhyrchwyr a chyfanwerthwyr y brechlyn yn mynychu cyfarfodydd y Tasglu yn rheolaidd ac ar hyn o bryd maent yn mewnforio cynhyrchion o Ogledd Iwerddon ac Ewrop i helpu i ateb y galw ym Mhrydain Fawr. Maent yn cynghori bod penderfyniadau masnachol ynghylch mewnforion pellach a chynhyrchu brechlyn yn dibynnu ar y galw gan ddiwydiant. Mae holl aelodau'r Tasglu yn annog ffermwyr a milfeddygon i osod archebion am frechlyn i ddangos y galw a sicrhau bod cyflenwadau ychwanegol ar gael. Disgwylir i'r achosion a gadarnhawyd o'r Tafod Glas gynyddu ledled Cymru ac anogir pob ffermwr yn gryf i drafod brechu gyda'u milfeddygon.