WQ100145 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/08/2026

A wnaiff y Gweinidog Cabinet fanylu ar y cynnydd a wnaed gyda'r cynnig gofal plant am ddim yn Rhondda Cynon Taf?

Wedi'i ateb gan Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb | Wedi'i ateb ar 27/08/2026

Rwy’n falch o roi gwybod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi llwyddo i gyflwyno 12.5 awr o ofal plant a ariennir yr wythnos i bob plentyn dwy oed, fel cam cyntaf y gwaith o ehangu gofal plant a ariennir.

Bydd y cam hwn yn cael ei gyflwyno ledled yr ardaloedd sy’n weddill yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o fis Medi 2026 ymlaen. Mae disgwyl i’r cynnig fod ar gael i bob plentyn dwy oed erbyn diwedd mis Mawrth 2027, fel rhan o’r gwaith ehangu pellach ar gyfer gofal plant a ariennir ledled Cymru.