WQ100071 (d) Wedi’i gyflwyno ar 12/08/2026

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i rhoi i gyflwyno gwaharddiad cenedlaethol ar barcio ar balmentydd, gan gysoni Cymru â'r dull sy'n cael ei ddefnyddio nawr yn yr Alban a Lloegr?

Wedi'i ateb gan Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 18/08/2026

Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i alluogi ac annog mwy o bobl i wneud teithiau pob dydd ar droed. Mae parcio ar balmentydd yn tanseilio’r nod yna a gall greu rhwystrau i gerddwyr, ac yn arbennig bobl anabl, pobl hŷn a’r rhai sy’n defnyddio cadeiriau gwthio. Ein nod yw newid ymddygiad gyrwyr drwy godi ymwybyddiaeth o’r ffaith mai cerddwyr ac nid cerbydau ddylai ddefnyddio palmentydd, gan ddefnyddio camau gorfodi effeithiol i geisio atal parcio ar balmentydd. 

O ran pwy sy’n gyfrifol am sicrhau nad yw modurwyr yn parcio ar balmentydd, mae’n fater cymhleth ac yn gyfrifoldeb a rennir gan yr heddlu a’r awdurdodau lleol. Gallant fynd i’r afael ag achosion o barcio ar strydoedd ac ar balmentydd drwy wahanol fesurau, gan gynnwys gorfodi deddfwriaeth ynghylch rhwystrau a pharcio’n beryglus, ardaloedd cyfyngedig a phenodedig ‘lle na chaniateir parcio ar balmentydd’ drwy Orchmynion Rheoleiddio Traffig (TRO) neu drwy sefydlu ardaloedd parcio arbennig.

Mae swyddogion wedi bod yn trafod y mater gyda Transport Scotland a’r Adran Drafnidiaeth ac maent wrthi’n ystyried y ffordd orau o sicrhau bod gan awdurdodau lleol ar draws Cymru fwy o bwerau i fynd i’r afael â pharcio ar balmentydd.