WQ100051 (d) Wedi’i gyflwyno ar 05/08/2026

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet yn ei rhoi i leihau gwahaniaethau rhwng byrddau iechyd o ran y gwasanaeth a ddarperir, gan gynnwys gwasanaethau awdioleg, er mwyn darparu gofal o safon mwy cyson, di-dor a chymaradwy ledled Cymru?

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal | Wedi'i ateb ar 18/08/2026

Y byrddau iechyd lleol sy’n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion eu poblogaethau. Mae Perfformiad a Gwella’r GIG, rhaglenni clinigol cenedlaethol a rhwydweithiau gwasanaeth yn cefnogi byrddau iechyd i leihau amrywiadau diangen, gwella ansawdd, a darparu mynediad mwy cyson at ofal ledled Cymru, gan gynnwys mewn gwasanaethau awdioleg. Mae hyn yn cyd-fynd â'n gwaith ehangach i wella gofal wedi’i gynllunio, sy'n canolbwyntio ar wella canlyniadau, mynd i'r afael ag amrywiadau a sicrhau bod pobl yn derbyn gofal amserol o safon uchel, waeth ble maen nhw'n byw.

Mae ein hagenda lywodraethu hefyd yn seiliedig ar fesurau i wella cyweddiad strategol gwasanaethau ar draws y system iechyd a gofal – gan gynnwys, fel yr amlinellir yng nghynllun y 100 Diwrnod Cyntaf, diwygio’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i wella cydweithredu systematig rhwng byrddau iechyd.