Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i roi i fabwysiadu'r un targed atgyfeirio at driniaeth â Lloegr, sef 18 wythnos yn dechrau o'r cam atgyfeirio yn hytrach na 26 wythnos, fel y gellir cymharu amseroedd aros ysbytai yn well ac i helpu o ran cynllunio newid pellgyrhaeddol i'r system i gefnogi canlyniadau gwell i gleifion?
Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu’r holl fesurau a thargedau perfformiad yn rheolaidd, gan gynnwys mesurau rhwng atgyfeirio a thriniaeth a’r gallu i’w cymharu â’r rhai a ddefnyddir mewn mannau eraill yn y DU.
Mae gwaith a wnaed gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â phartneriaid ystadegol ehangach y DU, wedi tynnu sylw at y ffaith bod cymariaethau uniongyrchol o ran amseroedd aros gofal a gynlluniwyd rhwng gwledydd y DU yn gymhleth a hynny oherwydd bod y systemau yn casglu ac yn adrodd ar wahanol fathau o lwybrau cleifion. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Phrif Ystadegydd Llywodraeth Cymru wedi nodi nad yw’r prif fesurau o ran rhestrau aros a ddefnyddir gan Gymru a Lloegr yn uniongyrchol gymharol. Er hynny, nodwyd y gellir cynhyrchu mesur wedi’i addasu o ran Cymru sy’n weddol debyg i Loegr drwy eithrio llwybrau diagnostig a therapi nad ydynt o dan arweiniad meddygon ymgynghorol.
Yng Nghymru, yn hanesyddol, mae prosesau adrodd ar fesurau rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi cynnwys rhai llwybrau diagnostig a therapi nad ydynt o dan arweiniad meddygon ymgynghorol; llwybrau nad ydynt wedi’u cynnwys ym mesurau rhwng atgyfeirio a thriniaeth Lloegr. Mae swyddogion felly wedi adolygu’r sail adrodd rhwng atgyfeirio a thriniaeth yng Nghymru gan adolygu opsiynau o ran newidiadau yn y ffordd y mae hyn yn adlewyrchu’n gywir y llwybrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol ac yn gwella’r gallu i’w cymharu â gwledydd eraill y DU. Mae’r gwaith hwn wedi nodi llwybrau yr adroddir amdanynt ar hyn o bryd o fewn mesurau rhwng atgyfeirio a thriniaeth yr adroddir hefyd amdanynt ar wahân yn rhan o ystadegau amseroedd aros ym maes diagnosteg a therapi. Byddai unrhyw newidiadau arfaethedig yn sicrhau bod prosesau adrodd yn cyd-fynd yn agosach â diffiniad gwreiddiol rhwng atgyfeirio a thriniaeth ac yn gwella’r gallu i gymharu ledled y DU, gan hefyd barhau i fonitro’r cleifion hynny drwy’r mesurau diagnostig a therapi perthnasol. Mae swyddogion yn y broses o baratoi’r cyngor hwn i Weinidogion, unwaith y bydd gwaith pellach wedi’i gwblhau.
Ochr yn ochr â hyn, mae’r Llywodraeth wedi ei gwneud yn glir bod gwella amseroedd aros yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol. Yn rhan o ymrwymiad 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth, rydym yn adolygu perfformiad GIG Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar amseroedd aros a mynediad at wasanaethau gofal a gynlluniwyd. Bydd yr adolygiad hwnnw’n ystyried ystod o dystiolaeth, gan gynnwys asesiadau ystadegol, data perfformiad gweithredol ac opsiynau ar gyfer trefniadau mesur ac adrodd yn y dyfodol.
Nid oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud i ddisodli targed amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth presennol Cymru â safon 18 wythnos Lloegr. O ran newidiadau i dargedau neu fframweithiau perfformiad yn y dyfodol, byddai angen ystyried blaenoriaethau clinigol, effeithiau gweithredol, cymharedd ystadegol ac anghenion cleifion yng Nghymru yn ofalus. Bydd canfyddiadau’r adolygiad parhaus o berfformiad ac amseroedd aros GIG Cymru yn helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol yn y maes hwn.