Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i rhoi i ymyrryd ym mhenderfyniad Undeb Rygbi Cymru i leihau'r 4 rhanbarth i 3, gan beryglu bodolaeth y Gweilch, sy'n hanfodol ar gyfer economi a balchder dinesig dinas Abertawe?
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod swyddogaeth bwysig rygbi proffesiynol o fewn llawer o gymunedau ar draws Cymru a hefyd gyfraniad y Gweilch at economi, hunaniaeth a balchder dinesig Abertawe.
Materion i Undeb Rygbi Cymru, fodd bynnag, yw’r penderfyniadau am strwythur a dyfodol y gêm broffesiynol, gan gydweithio â’r clybiau proffesiynol a’r rhanddeiliaid eraill perthnasol. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bwerau i ymyrryd yn y penderfyniadau masnachol a’r penderfyniadau o ran llywodraethiant ond rydym yn disgwyl i bob parti drafod mewn modd adeiladol a thryloyw er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy a llwyddiannus i rygbi Cymru, o lawr gwlad i’r lefel ryngwladol. Byddaf yn cyfarfod ag Undeb Rygbi Cymru yn fuan i ail-bwysleisio’r neges hon ac i annog pawb perthnasol i fynegi eu barn i Undeb Rygbi Cymru yn y cyfamser.