WQ100034
(e)
Datganodd yr Aelod fuddiant
Wedi’i gyflwyno ar 19/08/2026
A wnaiff y Gweinidog Cabinet amlinellu'r dyddiad targed ar gyfer gweithredu pob un o naw argymhelliad HMICFRS sy'n parhau i fod ar agor yn dilyn asesiad achos pryder Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a gyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2026, a pha asesiad y mae wedi'i wneud o'r achos pryder sy'n parhau ynghylch asesiad risg a chynllunio strategol yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru?
Manylion Buddiant yr Aelod
Rwy'n gyn-gyflogai.
I'w ateb gan: Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio