TQ1491 (e) Heb ei ddethol Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yng ngoleuni adroddiad diweddaraf BMA Cymru Wales, Achubwch ein Meddygfeydd, sy'n tynnu sylw at bwysau cynyddol ar gapasiti mewn practis cyffredinol ac yn codi pryderon am gynaliadwyedd gwasanaethau meddygon teulu ledled Cymru?