TQ1127 (e) Heb ei ddethol Wedi’i gyflwyno ar 26/06/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar wasanaethau mamolaeth yng Nghymru, yn dilyn ymddiswyddiad cadeirydd yr adolygiad annibynnol o'r uned famolaeth yn Ysbyty Singleton, ac adroddiadau am bryderon ynghylch diogelwch babanod yn dilyn arolygiad yn Ysbyty Athrofaol Cymru?