OPIN-2018-0099 Cwmnïau Cymru yn cefnogi ymgyrch Keep Me Posted (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/06/2018

Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn croesawu ymgyrch Keep Me Posted i sicrhau y cynhelir hawl defnyddwyr Cymru i ddewis biliau a datganiadau papur.
2. Yn nodi bod y newid i ddigidol yn cael effaith anghymesur ar ddefnyddwyr yng Nghymru, gyda lefelau uwch o allgáu digidol nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig.
3. Yn llongyfarch Dŵr Cymru a Chymdeithas Adeiladu Principality am fod yn fusnesau yng Nghymru y dyfarnwyd marc rhagoriaeth Keep Me Posted iddynt am ymrwymo i ddewis y defnyddwyr.
4. Yn galw ar sefydliadau eraill yng Nghymru i ymuno ag ymgyrch Keep Me Posted a chadarnhau eu hymrwymiad i gynnig biliau a datganiadau papur.