OPIN-2018-0096 Cyfreithloni defnyddio canabis at ddibenion meddyginiaethol
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2018
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn nodi bod mwyafrif llethol o Aelodau'r Cynulliad eisoes wedi pleidleisio i ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gefnogi datganoli penderfyniadau ynghylch rheoleiddio canabis meddyginiaethol.
2. Yn nodi ymhellach achosion Billie Caldwell a Alfie Dingley, y mae'n drasig na chaniateir iddynt gael meddyginiaeth sy'n seiliedig ar ganabis ond a fyddai'n achub bywydau .
3. Yn credu y dylid cyfreithloni defnyddio canabis at ddibenion meddyginiaethol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau cynllunio ar gyfer pan y rhoddir cyfrifoldeb iddi dros y mater hwn.