OPIN-2018-0095 Cydnabyddiaeth undebau llafur yn siopau Aldi a Lidl
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 19/06/2018
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn cydnabod y rôl hanesyddol y mae undebau llafur yn ei chwarae mewn cymdeithas a'r canlyniadau cadarnhaol sy'n deillio o gydfargeinio rhwng undebau llafur, cyflogwyr a chyflogeion unigol.
2. Yn mynegi pryder nad yw Aldi a Lidl yn cydnabod undeb llafur yn eu gweithle.
3. Yn cefnogi ymgyrch yr Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol (USDAW) ar gyfer cydnabod undebau llafur.
4. Yn galw ar Aldi a Lidl i gyfarfod ag undeb llafur USDAW i gychwyn trafodaethau ar gydnabod undebau llafur yn eu siopau.