OPIN-2018-0084 Plastig untro ar ystâd y Cynulliad (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/04/2018

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn croesawu'r ffaith bod mis Gorffennaf yn nodi 'mis Gorffennaf di-blastig', menter sy'n herio pobl i roi'r gorau i ddefnyddio plastig untro.

2. Yn cydnabod yr effaith niweidiol y mae plastig untro yn ei chael ar yr amgylchedd yng Nghymru.

3. Yn croesawu gwaharddiad BBC ar blastig untro ar draws pob un o'i safleoedd erbyn 2020.

4. Yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad i roi'r gorau i ddefnyddio plastig untro ar ystâd y Cynulliad ym mis Gorffennaf i gydnabod 'Gorffennaf di-blastig', ac i ddechrau rhoi'r gorau i ddefnyddio plastig untro am gyfnod amhenodol o hynny ymlaen.