OPIN-2018-0082 Degawd o ymgyrch Awr Ddaear Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2018

Mae'r Cynulliad hwn:
1) Yn croesawu'r ffaith bod y flwyddyn hon yn nodi degawd ers ymunodd Cymru â'r ymgyrch Awr Ddaear byd-eang, gan dynnu sylw at newid yn yr hinsawdd a'r angen i ddiogelu ein planed.
2) Yn llongyfarch WWF Cymru ar ei waith ar yr ymgyrch.
3) Yn nodi yr oedd adeiladau Llywodraeth Cymru ymhlith y cyntaf yng Nghymru i ddiffodd eu goleuadau am awr i ddathlu Awr Ddaear.
4) Yn credu bod gan Gymru ran i'w chwarae i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac amddiffyn ein planed ar gyfer ein plant a'n hwyrion.