OPIN-2018-0080 Brexit - gweithio ar gyfer un Cymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 09/03/2018

Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn canmol y gwaith rhagorol a wnaed eisoes gan Lywodraeth Cymru, ond yn nodi bod ansicrwydd yn parhau i effeithio ar ardaloedd sylweddol o gymdeithas sifil Cymru.
2. Yn credu:
a) bod Brexit yn golygu bod angen dull cydweithredol mewn gwlad sydd eisoes wedi'i gwanhau drwy cyni yn y DU a Chymru'n cael ei thanariannu gan Lywodraeth San Steffan;
b) os yw Cymru yn mynd i ddod ynghyd a chyfleu neges unedig i Lywodraeth y DU a'r gwledydd datganoledig eraill, rhaid rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth rhwng ein hunain yn gyntaf; ac
c) bod cydweithredu traws-sector yn hollbwysig i'n helpu i sicrhau'r canlyniadau gorau i bobl Cymru.