Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn nodi bod 75 y cant o erthyliadau yng Nghymru yn rhai meddygol sydd angen nifer o apwyntiadau clinigol.
2. Yn pryderu y rhoddir prescripsiynau am Misoprostol i'w ddefnyddio ar gyfer erthyliadau anghyflawn, ond dim ond mewn erthyliadau meddygol a gyflawnir mewn clinigau o dan 10 wythnos o feichiogrwydd y gellir ei ddefnyddio.
3. Yn nodi o dan adran 1(3A) o'r Ddeddf Erthylu y gall Llywodraeth Cymru ymestyn y mannau trwyddedig lle caniateir cymryd Misoprostol.
4. Yn credu y dylai menywod allu cael mynediad i wasanaethau mamolaeth ac erthyliadau diogel mor agos i'r cartref â phosibl.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y lleoliadau lle caniateir cynnal erthyliadau meddygol i gynnwys cyfeiriadau cartrefi cleifion.