OPIN-2018-0078 Wythnos genedlaethol prentisiaethau 2018 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2018

Mae'r Cynulliad hwn:

1. yn nodi mai 5-9 Mawrth 2018 yw wythnos genedlaethol prentisiaethau.
2. yn dathlu cyfraniad cadarnhaol prentisiaethau i economïau lleol a'r economi genedlaethol.
3. yn cydnabod bod tlodi yn gallu bod yn rhwystr sylweddol i bobl ifanc sy'n eu hatal rhag cael prentisiaethau.
4. yn credu bod prentisiaethau yn haeddu parch cydradd â mathau eraill o addysg a hyfforddiant.
5. yn credu bod yn rhaid i barch cydradd fynd law yn llaw â chymorth cydradd.