OPIN-2018-0073 Gwarantu pensiynau i gyn-weithwyr Allied Steel and Wire
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 08/02/2018
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn cydnabod yr addewid a wnaeth Llywodraeth y DU i weithwyr dur ASW i warantu iawndal ar gyfer pensiynau a dynnwyd wrthynt pan aeth y cwmni i'r wal.
2. Yn cydnabod dros ddegawdau o waith, bod y gweithwyr wedi talu am 100 y cant o'u pensiynau, ond y gwnaethant gytuno i dderbyn dim ond 90 y cant yn 2007.
3. Yn cydnabod ymhellach bod chwyddiant ers 2007 wedi dileu 25 y cant o werth pensiwn a ryddhawyd yn 2007.
4. Yn pryderu bod Llywodraeth y DU yn awr wedi gwrthod caniatáu pensiynau wedi'u diogelu yn erbyn chwyddiant i bensiynwyr ASW.