OPIN-2017-0069 Cau banciau (e) Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2017

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bancio a chyngor ariannol hygyrch i unigolion a busnesau ym mhob cymuned yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y cyhoeddiad diweddar am gau 20 o ganghennau banc Natwest yng Nghymru ac yn galw ar y cwmni i ailystyried y penderfyniad.
3. Yn nodi'r adroddiad gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, 'Time for a Full Public Bank in Wales'?
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r camau y mae angen eu cymryd i sefydlu modelau amgen ar gyfer darparu gwasanaethau bancio, gan gynnwys banc pobl Cymru yn seiliedig ar fodel banciau cynilo lleol.