OPIN-2017-0067 Y cyfraniad y mae busnesau bach a chanolig yn ei wneud i economi Cymru
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 30/11/2017
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn cefnogi'r cyfraniad y mae busnesau bach a chanolig yn ei wneud i economi Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diddymu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru;
b) sicrhau bod cwmnïau yng Nghymru yn cael gwell mynediad at gaffael sector cyhoeddus;
c) cyflymu'r gwaith o gyflwyno band eang cyflym iawn ledled Cymru;
d) ariannu Banc Datblygu Cymru i sicrhau bod busnesau bach a chanolig yn cael y cymorth ariannol sydd ei angen arnynt i ffynnu;
e) cynyddu nifer y bobl sy'n ymweld â'r stryd fawr yng Nghymru drwy gyflwyno mwy o barcio rhad ac am ddim; a
f) targedu hyfforddiant i sicrhau bod gan weithlu Cymru y sgiliau sydd eu hangen arnynt.