OPIN-2017-0065 Mis ymwybyddiaeth canser y pancreas (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2017

Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn croesawu'r ffaith bod mis Tachwedd yn nodi mis ymwybyddiaeth canser y pancreas;
2. Yn llongyfarch elusennau a chefnogwyr ar eu gwaith i godi ymwybyddiaeth am y clefyd, y mae ganddo'r cyfradd goroesi pum mlynedd isaf o'r 20 o ganserau mwyaf cyffredin 20 yng Nghymru;
3. Yn ystyried ei bod yn fater o bryder y canfu pôl piniwn gan Pancreatic Cancer UK yn 2017 na fyddai 35 y cant o oedolion yn y DU yn poeni os byddai ganddynt rhai o symptomau posibl canser y pancreas;
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag elusennau, darparwyr gwasanaethau a gweithwyr iechyd proffesiynol i wella ymwybyddiaeth, ymchwil, diagnosis, triniaeth a chanlyniadau ledled Cymru.

Cyflwynwyd gan