OPIN-2017-0064 Galluogi gofalwyr ifanc i astudio (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2017

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol hwn:
1) Yn cydnabod y cyfraniad aruthrol y mae gofalwyr ifanc yn ei wneud yn ein cymdeithas a thrwy gefnogi eu hanwyliaid;
2) Yn nodi na ellir darparu'r Lwfans Gofalwr i ofalwyr sy'n astudio am 21 awr yr wythnos neu fwy;
3) Yn credu bod hyn yn anfanteisio pobl ifanc sy'n dymuno astudio er mwyn gwella eu rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol a chyrraedd eu potensial llawn;
4) Yn llongyfarch Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc Sir Gaerfyrddin ar eu hymgyrch ledled y wlad i gael gwared ar y maen prawf 21 awr; a
5) Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi eu hymgyrch i alluogi gofalwyr ifanc i astudio heb ofni y byddant yn colli eu llinell achub ariannol.