OPIN-2017-0063 Mynd i'r afael â llygredd aer yng Nghymru
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 14/11/2017
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn nodi effaith niweidiol llygredd aer ar ein ysgyfaint, a'r effeithiau niweidiol ar ysgyfaint plant a rhai sydd â chyflyrau'r ysgyfaint.
2. Yn nodi y gellir priodoli bron 1,300 o farwolaethau cynnar y flwyddyn yng Nghymru i lygredd aer, a chofnododd pum ardal lefelau niweidiol o lygredd yn 2016.
3. Yn annog Llywodraeth Cymru i cyflwyno rhwydwaith o barthau aer glân ar draws yr ardaloedd mwyaf llygrol, gan hyrwyddo teithio llesol a glân.
4. Yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi'r galwadau ar gyfer cronfa aer glân a chynllun sgrapio cerbydau diesel fel rhan o gyllideb Llywodraeth y DU.