OPIN-2017-0062 Cefnogi gofalwyr ifanc (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2017

Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn cefnogi'r galw i annog pob ysgol i wella cymorth, prosesau adnabod a chanlyniadau ar gyfer gofalwyr ifanc.
2. Yn dathlu gwaith Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ac ysgolion peilot ledled Cymru wrth ddatblygu arfer da o ran adnabod a chefnogi gofalwyr ifanc yn yr ysgol.
3. Yn cydnabod yr adnoddau gwerthfawr a dreialwyd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'u potensial i gael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau i ofalwyr ifanc os cânt eu gweithredu.
4. Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn uchelgeisiol o ran eu dyheadau ar gyfer gofalwyr ifanc o ran cyrhaeddiad academaidd ac iechyd a lles ehangach.