OPIN-2026-0561 Diwrnod COPD 2026 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2026

Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu'r cyfle i dynnu sylw at glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) drwy Ddiwrnod Byd-eang COPD ar 18 Tachwedd 2026.
2. Yn nodi bod dros 185,000 o bobl yng Nghymru wedi cael diagnosis o COPD a bod cyflyrau ar yr ysgyfaint yn costio bron £800 miliwn y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru.
3. Yn nodi ymhellach mai dim ond chwech y cant o gleifion â COPD, yn ôl Asthma + Lung UK, sy'n cael y pum elfen o ofal sylfaenol a argymhellir gan NICE.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried datblygu cynllun gwella anadlol ar gyfer y grŵp hwn o glefydau sy'n effeithio ar gynifer o bobl.

Buddiant perthnasol wedi'i ddatgan

Rwyf yn glinigydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.