OPIN-2026-0559 Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2026 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/11/2026

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr ar 19 Tachwedd ac yn croesawu'r thema eleni ynghylch cydnabod gofalwyr di-dâl.
2. Yn cydnabod y cyfraniad gwerth dros £10 biliwn a wneir gan gannoedd ar filoedd o ofalwyr di-dâl ledled Cymru bob blwyddyn.
3. Yn gresynu at effaith barhaus rolau gofalu ar iechyd gofalwyr, sefydlogrwydd ariannol a'r gallu i gadw cyfleoedd gwaith â thâl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu buddsoddiad mewn cymorth i ofalwyr di-dâl, er mwyn gwella bywyd cannoedd ar filoedd o ofalwyr di-dâl ledled Cymru.