OPIN-2026-0557 Beth am Barchu Manwerthu - Let's Respect Retail
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 09/11/2026
Mae'r Senedd hon:
1. Yn croesawu ymgyrch Let's Respect Retail yr Ymddiriedolaeth Manwerthu, a gaiff ei chefnogi gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru ac undeb llafur Usdaw, sy'n dechrau ar 9 Tachwedd 2026.
2. Yn hyrwyddo caredigrwydd, cwrteisi a pharch tuag at weithwyr a chwsmeriaid yn ystod cyfnod masnachu prysur y Nadolig.
3. Yn cydnabod ymdrechion gweithwyr wrth stocio silffoedd a chyflenwi cynnyrch.
4. Yn condemnio camddefnydd, trais a chamdriniaeth fel ymddygiad hollol warthus ac annioddefol.
5. Yn canmol cydweithrediad cyflogwyr, elusennau ac undebau sy'n hyrwyddo siopa Nadolig diogel, cyrchfannau manwerthu bywiog yng Nghymru a swyddi lleol.