OPIN-2026-0556 20 Mlynedd o Ombwdsmon Ynni
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2026
Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi 20 mlynedd o rôl yr Ombwdsmon Ynni.
2. Yn cydnabod ei sefydliad gwirfoddol yn 2006 cyn bod angen cyfranogiad gorfodol gan gyflenwyr yn 2008.
3. Yn llongyfarch yr Ombwdsmon Ynni ar gefnogi mwy na miliwn o ddefnyddwyr – gan gynnwys 50,000 yng Nghymru – dros y cyfnod hwn.
4. Yn croesawu ei gylch gorchwyl estynedig sy'n cefnogi defnyddwyr broceriaid ynni a rhwydweithiau gwres yn ogystal â busnesau bach.
5. Yn cefnogi symudiadau diweddar i fyrhau amseroedd llwybrau cwynion, cryfhau penderfyniadau a gwella hygyrchedd.
6. Yn cydnabod ei rôl wrth ddarparu gwasanaeth di-dâl, annibynnol a diduedd sy'n gyrru gwelliannau yn y sector ynni ac yn rhoi hwb i hyder defnyddwyr.