Mae’r Senedd hon:
1. Yn cydnabod y risgiau a gymerir gan weithwyr y gwasanaethau brys yn rhinwedd eu swydd;
2. Yn nodi y gall anafiadau difrifol achosi anabledd parhaol, niwed corfforol a seicolegol parhaol, a dod â gyrfa i ben yn gynamserol;
3. Yn gresynu at y diffyg cydnabyddiaeth genedlaethol bwrpasol i weithwyr sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol ac wedi ymddeol am resymau meddygol;
4. Yn canmol ymgyrch "999 Injured and Forgotten", sef ymgyrch gan Gymdeithas Genedlaethol Swyddogion Heddlu Wedi Ymddeol;
5. Yn cydnabod bod cyn-weithwyr y gwasanaethau brys yn parhau i fyw gydag anafiadau sy'n gysylltiedig â’u gwaith; a
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sefydlu cynllun dyfarndaliadau am anafiadau sy'n gysylltiedig â’r gwaith, sy'n anrhydeddu gweithwyr y mae eu hanafiadau yn arwain at anabledd parhaol neu ymddeoliad am resymau meddygol.