OPIN-2026-0554 Galw am strategaeth genedlaethol i roi terfyn ar yr arfer didrugaredd o gadw oedolion ag anableddau dysgu mewn lleoliadau ysbytai diogel
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 28/10/2026
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cefnogi'r alwad gan Gymdeithas Tai Dewis Cyntaf am strategaeth genedlaethol i roi terfyn ar gadw oedolion ag anableddau dysgu mewn ysbytai yn ddiangen.
2. Yn nodi bod tua 125 o oedolion ag anableddau dysgu yng Nghymru yn cael eu cadw mewn lleoliadau ysbytai diogel, yn aml ymhell o'u cymunedau a'u teuluoedd, heb gynllun clir ar gyfer eu dyfodol.
3. Yn nodi ymhellach fod degawd o fethiant ar ran byrddau iechyd a chynghorau, i integreiddio gwasanaethau, yn esgeuluso rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
4. Yn galw am strategaeth genedlaethol i roi terfyn ar yr arfer didrugaredd hwn mewn Cymru flaengar.