Mae’r Senedd hon:
1. Yn cydnabod y bydd cyflymu cynnydd mewn atebion sy’n seiliedig ar natur, dulliau o reoli llifogydd yn naturiol a gorchudd coed priodol yn helpu ffermwyr, cymunedau, busnesau a phob rheolwr tir i leihau'r risgiau sy’n gysylltiedig â llifogydd, sychder a thanau gwyllt.
2. Yn credu:
a) y bydd adolygu a symleiddio prosesau cynllunio a rheoleiddio ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol ac atebion sy’n seiliedig ar natur yn lleihau rhwystrau ac yn cefnogi camau cyflawni brys ledled Cymru; a
b) y bydd integreiddio mapio hydrolegol yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gwella hyfywedd ffermydd, diogeledd bwyd, adferiad natur ac ansawdd dŵr.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mapio llifoedd dŵr brig ar gael i bob rheolwr tir a chynghorydd er mwyn cefnogi ymyriadau wedi’u targedu i reoli llifogydd yn naturiol.