OPIN-2026-0551 Nodi 60 Mlynedd ers Trychineb Aberfan (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/10/2026

Mae'r Senedd hon:
1. Yn nodi bod 21 Hydref 2026 yn nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan.
2. Yn cofio'r 116 o blant a 28 o oedolion a gollodd eu bywydau pan gwympodd domen gwastraff glo ar Ysgol Iau Pantglas a'r cartrefi cyfagos.
3. Yn talu teyrnged i ddewrder a gwytnwch y goroeswyr, y teuluoedd mewn profedigaeth a chymuned ehangach Aberfan.
4. Yn cydnabod pwysigrwydd cadw cof Aberfan yn fyw a sicrhau na chaiff gwersi'r trychineb eu hanghofio.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gydweithio er mwyn sicrhau cyllid digonol ar gyfer tomenni glo segur yng Nghymru, er mwyn osgoi trychinebau yn y dyfodol.

Tanysgrifwyr