OPIN-2026-0550 Cynlluniau i gau cyffyrdd yr M4 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/10/2026

Mae’r Senedd hon:

1. Yn gwrthwynebu cynlluniau i gau cyffyrdd yr M4 o amgylch Casnewydd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal a chyhoeddi asesiad cynhwysfawr o'r effaith.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu’n llawn â thrigolion, busnesau, y gwasanaethau brys ac eraill, gan sicrhau bod eu lleisiau’n llywio unrhyw benderfyniadau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â chau cyffyrdd ac, yn yn lle hynny, adeiladu ffordd liniaru’r M4 er mwyn gwella llif traffig.