OPIN-2026-0548 Diwrnod Shwmae Su'mae (d) Wedi’i gyflwyno ar 08/10/2026

Mae’r Senedd hon:
1. Yn nodi diwrnod Shwmae Su’mae ar 15 Hydref 2026.
2. Yn nodi fod hwn yn gyfle i ddathlu’r iaith Gymraeg ac annog pobl i ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg – beth bynnag eu lefel.
3. Yn llongyfarch Mentrau Iaith Cymru am gydlynu’r ymgyrch yma ers 2013 ac am ei gwaith yn hyrwyddo’r iaith ar draws Cymru.
4. Yn ymrwymo i gefnogi diwrnod Shwmae Su’mae drwy ddefnyddio’r iaith a chefnogi’r ymgyrch yma.