OPIN-2026-0545 Datganiad Barn yn galw am asesiad Cymru gyfan o anghenion tai i oedolion ag anableddau dysgu (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/10/2026

Mae'r Senedd hon:
1. Yn cefnogi'r alwad gan Gymdeithas Dai First Choice am asesiad Cymru gyfan o anghenion tai, fesul awdurdod lleol, ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu.
2. Yn nodi bod absenoldeb y data hyn yn cyfrannu at fethiant wrth integreiddio gofal a thai i oedolion ag anableddau dysgu.
3. Yn nodi ymhellach, bod rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, o ganlyniad i'r methiant hwn, yn cael eu cadw mewn ysbytai, yn aml gannoedd o filltiroedd o bellter oddi wrth eu cymunedau a'u teuluoedd, heb fawr o gynllun, neu ddim cynllun o gwbl, ar gyfer yr hyn a fydd yn digwydd iddynt.
4. Yn galw ar y Senedd hon i ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar yr arfer hwn.