OPIN-2026-0544 Lwfans Tai Lleol
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 29/09/2026
Mae'r Senedd hon:
1. Yn cydnabod bod cost rhentu preifat y tu hwnt i gyrraedd llawer o aelwydydd yng Nghymru.
2. Yn nodi'r effaith benodol y mae penderfyniad Llywodraeth y DU i rewi Lwfans Tai Lleol dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi'i chael ar ymdrechion datganoledig i atal a datrys digartrefedd.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymrwymo i gynyddu Lwfans Tai Lleol i adlewyrchu cost gynyddol rhentu yng Nghymru.
4. Yn annog Llywodraeth y DU i wrando ar elusennau, fel Crisis, sy’n amlygu'r effaith y mae rhewi'r Lwfans Tai Lleol wedi'i chael ar bobl, cymunedau a gwariant cyhoeddus.