OPIN-2026-0540 Cofio Aberfan, 60 mlynedd ar ôl y trychineb (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/09/2026

Mae’r Senedd hon:
1. Yn nodi y bydd 21 Hydref 2026 yn nodi 60 mlynedd ers trychineb Aberfan, pan laddwyd 144 o bobl, 116 ohonynt yn blant.
2. Yn cydnabod bod y digwyddiad trasig hwn, y trychineb mawr cyntaf i gael ei weld drwy lens camera teledu, wedi cael effaith ddofn ledled y byd.
3. Yn cydnabod pa mor ddwfn yw'r galar a deimlir gan y rhai a gollodd anwyliaid, a’r baich seicolegol ar y goroeswyr.
4. Yn talu teyrnged i urddas a chryfder y gymuned, sydd wedi bod mor amlwg wrth i bobl Aberfan ddod ynghyd i wneud trefniadau i nodi 60 mlynedd ers y trychineb hwn.